Amdanaf I

Cefais fy ngeni yn Leigh, Lancashire, i deulu a fu’n löwyr a theilwriaid am genedlaethau. Fi oedd y person cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol – yn Sheffield ble ymunais i â’r Blaid Lafur ym1979.

Felly un llafur yw fy stori i. Digwyddodd hyn am fod llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel wedi rhoi cyfle am ddyfodol gwell i fy mam a dad.

Rwyf bob amser wedi bod yn weithgar yn yr ymdrech am gyfiawnder cymdeithasol – o streic y glowyr hyd at Undod yr Wcrain a chefnogi’r don gyfoes o weithredu diwydiannol. Rwyf yn credu bod cynnydd yn dod trwy gysylltu problemau pobl sy’n gweithio, adrodd stori o obaith ac ysgogi clymblaid eang o bleidleiswyr blaengar i gyflawni newid go iawn.

Fel newyddiadurwr ar BBC Newsnight ac wedyn ar Channel 4 News, adroddais ar frwydrau byd-eang yn erbyn ymelwad ac anghyfiawnder – o weithlu mudol Tseina, Y Gwanwyn Arabaidd a’r rhyfel yn Gaza i’r frwydr am urddas a pharch yma yng nhgymunedau cyn-ddiwydiannol Prydain.

Yn 2016 ymddiswyddais o newyddion teledu er mwyn gwrthwynebu Brexit a chefnogi Llafur yn agored. Heddiw, rwyf yn ysgrifennu i The New European, The New Statesman a Social Europe – ac yn siarad â fforymau o gwmpas y byd am angen trawsfudiad wedi’i arwain gan y wladwriaeth at gyfiawnder cymdeithas, economi a hinsawdd.

Dysgodd etholiad 2019 i mi mai dim ond trwy wrando yr ydym yn gallu ennill. Mae angen i ni gyfuno ‘r cynnig o gyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gyda gwerthoedd traddodiadol Llafur ar drosedd, amddifyniad a pholisi tramor. Dyna pam, pan gollodd llafur, roeddwn i’n un o’r rhai cyntaf ar y chwith i gefnogi ymgyrch arweinyddiaeth Keir Starmer.

Yn Chwefror 2022 roeddwn i yn Kyiv hyd at 36 awr cyn i Rwsia oresgyn ynghŷd ag aelodau Llafur Cymru a Phlaid Cymru o’r Senedd ac arweinwyr ASLEF a’r NUM, yn adeiladu undod gyda’n cymheiriaid Wcreinaidd. Ers hynny rwyf wedi bod ar flaen y gad yn hybu cydlyniad gyda Wcrain, ac yn helpu Llafur i ddatblygu ei pholisiau amddifyn i ymateb i’r argyfwng.

Democrat cymdeithasol radical ydw i: i mi mae ailddosbarthu pŵer yr un mor bwysig ag ailddosbarthu cyfoeth. Dylai Sosialaeth fod yn brosiect o hunan-rymuso wedi’i arwain gan bobl o’r dosbarth gweithiol a’u cymunedau, oddi isod.

Dyma’r hyn a ddysgais gan y teulu a’r gymuned ddosbarth gweithiol y cefais fy magu ynddo: am bopeth sydd gennym bu rhaid i ni frwydro.