Canol a De Sir Benfro: Pam dwi’n sefyll

Paul Mason ydw i a dwi’n sefyll i fod yn ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer Canol a De Sir Benfro yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cefais fy ngeni yn Lancashire, i deulu a fu’n deilwriaid a glöwyr am genedlaethau. Fi oedd y person cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol, ble ymunais â Llafur ym 1979.

Ers hynny, dwi wedi treulio fy mywyd yn brwydro dros gyfiawnder cymdeithasol: fel ymgyrchydd Llafur, undebwr llafur a newyddiadurwr – yn dal y rhai grymus i roi cyfrif, ac yn rhoi llais i rai di-rym.

Dwi’n sefyll am ddetholiad yng Nghanol a De Sir Benfro am fy mod yn credu y gallaf wneud gwahaniaeth yma. Byddaf yn defnyddio fy mhroffil uchel a sgiliau ymgyrchu i adeiladu’r glymblaid eang o bleidleiswyr sydd angen i gymryd y sedd o’r Toriaid, ac i gynrychioli gofynion unigryw pobl De Orllewin Cymru.

Mae fy nghysylltiadau gyda Sir Benfro yn mynd yn ôl i’r 1990au: dwi’n caru’r lle a’r bobl. Dwi’n byw yn Llundain ond ers mynd yn newyddiadurwr annibynnol yn 2016 – heblaw am y cyfnod clo – dwi wedi byw a gweithio yma tua 3 mis y flwyddyn. Os caf fy newis, byddaf yn gwneud fy nghartref yma a dechrau ymgyrchu.

Yr Her

Mae Sir Benfro yn dod o dan straen o bob cwr: mae newid hinsawdd, Brexit, prinder tai a’r argyfwng costau byw i gyd yn effeithio ar fywyd yma yn aruthrol. Mae pwysau ar yr NHS yn llym, er gwaethaf ymdrechion y llywodraeth LLafur yng Nghaerdydd.

Felly, dwi eisiau argyhoeddi pleidleiswyr yn Sir Benfro ei bod hi’n bryd i gael newid. Beth bynnag mae’r polau barn yn dweud fydd ennill yma ddim yn hawdd – yn enwedig pan mae’r ffiniau yn cael eu hadolygu.

Os bydd Llafur yn ennill yr etholiad nesaf, bydd angen llais gryf Llafur ar Sir Benfro i siarad ar ran ei phobl. Dwi’n gwybod sut i frwydro am y buddsoddiad sydd angen – yn y gwasanaethau brys, cartrefi fforddiadwy i bobl leol a chysylltiadau trafnidiaeth gwell. Os bydd y Cynllun Porth Rhydd Celtaidd yn cael ei dderbyn, byddaf yn ymladd i sicrhau ei fod o fudd i’r economi ehangach, o dan reolaeth ddemocrataidd leol.

Gyda phrisoedd yn codi’n aruthrol – a chyflogau go iawn yn y sector cyhoeddus yn mynd ar i waered, byddaf bob amser yn sefyll gyda gweithwyr ar streic. Ac ni fyddaf fyth yn pleidleisio dros doriadau i wasanaethau cyhoeddus.

Mae Llafur yn gallu ennill yn Ne Orllewin Cymru

Heddiw mae Llafur ar y blaen yn arolygon barn y DU am fod strategaeth am newid go iawn gennym: yn radical ar yr economi a newid hinsawdd tra bo’n cadw at werthoedd traddodiadol Llafur ar drosedd, polisi tramor ac amddiffyniad.

Dwi’n gwybod yn iawn sut i gyflawni’r strategaeth honno am fy mod wedi helpu i’w llunio. Ar ôl y trechiad yn 2019 bues i yno ar ddechrau ymgyrch Keir Starmer. Am y ddwy flynedd ddiwethaf dwi wedi rhoi cyngor polisi i dîm amddiffyn yr wrthblaid Llafur. Dwi hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a radio yn hyrwyddo polisiau a gwerthoedd LLafur.

Rydw i’n adeiladwr clymbleidiau gydol oes: roeddwn yn falch i sefyll yn Kyiv gydag aelodau’r Senedd o’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru, ar noswyl goresgyniad Rwsia, yn dangos undod gyda phobl Wcrain. Yn y frwydr dros gynrychiolaeth gyfrannol dwi wedi cydweithio gydag uwch wleidyddion o Blaid Cymru a’r Parti Gwyrdd.

Y llinell waelod yw; rhaid i ni ennill yma. Does dim llwybr tuag at Lywodraeth Llafur heb hynny . Mae hynny yn golygu argyhoeddi pobl a bleidleisiodd dros y Toriaid tro diwethaf i bleidleisio dros Llafur. Ac mae hynny’n golygu gwrando ac ymateb i bryderon pobl. A dyna fu fy ngwaith i am bron 30 mlynedd.

Gyda fy mhrofiad ymgyrchu, sgiliau yn y cyfryngau ac ymrwymiad i adeiladu cynghrair o bleidleiswyr blaengar, gobeithio y gallaf creu’r mwyafrif sydd angen arnom. Byddaf yn cadw drws agored i bleidleiswyr o bob parti a dim un.

Beth sy’n digwydd gyda’r newid ffiniau?

Mae Llafur yn dethol ar gyfer Preseli nawr am ei bod hi’n uchel ar y rhestr o seddau targed. Ond ym Mis Gorffennaf 2023 bydd Comisiwn Ffiniau Cymru yn creu etholaeth newydd, Canol a De Sir Benfro, yn estyn o Ddinbych y Pysgod i Dyddewi. Bydd hynny yn newid y deinamig etholiadol ond, gyda’r ymgeisydd a’r ymgyrch iawn – fel mae’r arolwg isod yn dangos – mae LLafur yn gallu ennill.

Allwch chi helpu?

Os byddaf yn cael lle ar y rhestr hir, bydd angen enwebiadau arnaf er mwyn cyrraedd y rhestr fer: oddiwrth ganghennau’r Blaid Lafur yn y ddwy etholaeth bresennol, neu undebau llafur a chymdeithasau sosialaidd sy’n gysylltiedig â’r parti. Bydd angen cymeradwyaeth personol oddiwrth aelodau Llafur yn Sir Benfro, ac ar draws Cymru, a phleidleiswyr – felly os gallwch chi helpu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Os hoffech chi helpu fy ymgyrch, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, llenwch y ffurflen isod. Boed undod a phob lwc i’r ymgeiswyr eraill i gyd.